2014 Rhif 2777 (Cy. 283)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21B a 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“Deddf 1990”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran 21B yn Neddf 1990.

Mae adran 21B o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 20 ac apelau o dan adran 21 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig.  

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.

Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â’r offeryn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2014 Rhif 2777 (Cy. 283)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014

Gwnaed                               14 Hydrefr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       17 Hydref 2014

Yn dod i rym                     12 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 21B([1]) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 40([2]) o’r Ddeddf honno, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Tachwedd 2014.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.

Cyfnod rhagnodedig

2.(1)(1) Saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion adran 21B(3) o Ddeddf 1990.

(2) Ym mharagraff (1)—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

(a)     o ran atgyfeiriadau o dan adran 20([4]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r atgyfeiriad gan yr awdurdod sylweddau peryglus; a

(b)     o ran apêl o dan adran 21([5]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl ynghyd ag unrhyw wybodaeth a ragnodir.

 

 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

 

14 Hydref 2014



([1])           1990 p. 10. Mewnosodwyd adran 21B o Ddeddf 1990 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, O.S.  2014/2773 (Cy.280).

([2])           Mae diwygiadau i adran 40 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([3])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.

([4])           Mae diwygiadau i adran 20 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])           Diwygiwyd adran 21 o Ddeddf 1990 gan adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 a pharagraff 6 o Atodlen 11 iddi. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.